|
Dyma'ch
cyfle i fwynhau ymlwybro ar hyd lannau cronfeydd Cwm Elan ac ar
lannau'r afonydd Gwy a Hafren. Bu'r bardd Shelley a'i wraig yn byw yn
yr ardal ym 1812 a mawr oedd eu cariad at dirwedd y fro - newidiwyd
yn ddirfawr flynyddoedd wedyn gyda chronni'r dyfroedd i ffurfio
cronfeydd dŵr Cwm Elan.
Yn
ogystal â thref Rhaeadr Gwy, cewch gyfle i ddarganfod tref
Llangurig ac i ymweld ag ardal ddwyreiniol mynyddoedd Pumlumon. Wrth
ymweld â phentrefi Sant Harmon, Pant y Dŵr a Bwlch y
Sarnau cewch hefyd gyfle i ymweld ag adfeilion Abaty Cwm Hir ble
gewch gofeb i Llywelyn ein Llyw Olaf, dywedir iddo gael ei gladdu yma. |