|
Dyma
gyfle i ddarganfod bro hanesyddol ar y goror sydd ganol ffordd rhwng
gogledd a de Cymru ar Glawdd Offa.
Mae
Trefyclo ar Gylchdaith Maesyfed, taith 84 milltir ar hyd lonydd
tawel sy'n rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae twr cloc
prydferth yn dyddio o 1872 yn Nhrefyclo ac nid oes gofyn eich bod yn
beicio ymhell i fwynhau'r golygfeydd yn Nyffryn Tefeidiad o gwmpas y dref.
Sefydlwyd
tref Llanandras ar gefn y diwydiant gwlân. Llanandras oedd hen
dref sirol Maesyfed ac mae'r dref yn meddu ar eglwys hynafol Andreas
Sant edrycha'n debycach i eglwys gadeiriol o ran pensaernïaeth.
Mae
llwybr beicio yn cysylltu'r ddwy dref ar hyd glannau'r afonydd
Llugwy a Thefeidiad gan arwain heibio i rai o gestyll hynafol
y Mers a safleoedd diddorol eraill yng nghyffiniau Clawdd Offa. |