Gwyliau Beicio Cymru


 

DOLGELLAU - ERYRI, MYNYDDOEDD A MÔR

Yn gorwedd yng nghysgod Cader Idris, mae mwy o adeiladau wedi eu rhestru yn nhref Dolgellau nag yn unrhyw dref arall yng Nghymru. Dyddia rhai o'r adeiladau mwyaf cain yn ôl i'r cyfnod pan oedd Dolgellau yn ganolbwynt pwysig ar gyfer y diwydiant gwlân. Erbyn hyn mae Dolgellau yn ganolfan delfrydol ar gyfer darganfod aber y Mawddach a'r cyfoeth o fywyd gwyllt yn ei chyffiniau.

Tua saith milltir o Ddolgellau, ym Mharc Coed y Brenin, mae un o'r Canolfannau Beicio Mynydd gorau yng Nghymru. Yn wir, mae Coed y Brenin yn fyd-enwog am safon ei lwybrau beicio mynydd gan gynnig dros bum milltir ar hugain ohonynt. Mae llwybrau ar gyfer pobl o bob oed a gallu, oll wedi eu hadeiladu gan Fenter Coedwigaeth Cymru.


TEITHIAU:

Taith A :

Taith Cader Idris, 21 milltir.

Taith B :

Lôn Mawddach, Dolgellau / Abermaw, 18 milltir.

Taith C :

Taith Trawsfynydd. O Ddolgellau heibio i Goed y Brenin (17 milltir i Goed y Brenin), 28 milltir.

Taith D :

Taith Dolgellau a Machynlleth, 28 milltir.

Taith E :

Taith Pwll Penmaen, 5 milltir.

Canolfannau Croeso Cymru

CANOLFANNAU CROESO CYMRU

Dolgellau*

01341 422888

Abermaw

01341 280787

 

* ar agor trwy'r flwyddyn

 


 

Mwy o wybodaeth ar-lein am yr ardal hon:

 

Eryri, Mynyddoedd a Môr

 

 

 

 

Ardal Dolgellau

Canolfannau Gwyliau Beicio Cymru - Dolgellau

 


Cynhelir y wefan hon gan Bartneriaeth Gwyliau Beicio Cymru