|
Tref
Aberteifi yw'r groesfan hanesyddol sy'n cysylltu Ceredigion â
Phenfro. Yn ei gastell yn Aberteifi ym 1176 cynhaliodd Rhys ap
Gruffydd - un o dywysogion olaf y Deheubarth - yr eisteddfod gyntaf
i'w chofnodi. Mae Canolfan Hanes Aberteifi yn adrodd hanes cyfoethog
y dref a'r ardal o'i chwmpas ac mae Theatr Mwldan yn cynnig adloniant
ac arddangosfeydd o safon gydol y flwyddyn.
Tua'r
de mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a mynyddoedd enwog y
Preselau. Tua'r gogledd mae arfordir Ceredigion, ei draethau
gwobrwyol a'i ddolffiniaid.
Rhwng
Aberteifi a Chilgerran mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru ac mae llwybr
beic yn cysylltu Aberteifi â'r Ganolfan. |