Gwyliau Beicio Cymru


 

ABERHONDDU - CANOLBARTH CYMRU

Beicio er ymlacio'n llwyr. Gadewch y car yn segur a gadael i olygfeydd godidog ar Fannau Brycheiniog waredu straen a bwrlwm bywyd beunyddiol.

Teithiwch yn hamddenol ar hyd lonydd llonydd cefn gwlad, dilynwch lwybrau di-draffig trwy ddyffrynnoedd coediog hardd neu dreuliwch orig fythgofiadwy i fwynhau llwybrau halio digynnwrf Camlas Brycheiniog a Gwent

Mae'r golygfeydd yn odidog ond mae cymaint o bethau eraill i'w gwneud ar y teithiau beicio na hynny'n unig: arhoswch am ginio ganol dydd hamddenol mewn tafarn, cymerwch yr amser i fwynhau bywyd gwyllt neu hanes yr ardal, ac yna, ar ddiwedd y dydd, ymlaciwch a mwynhewch y lletygarwch croesawgar lleol.

Am deithiau beicio eraill ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sylwch ar dudalen Dyffryn Tywi.


TEITHIAU:

Taith 1:

Llifddor Brynich a Chamlas Gwent a Brycheiniog , 6 milltir.

Taith 2:

Ar lannau Llyn Safaddan, 8 milltir (16 milltir dwy ffordd).

Taith 3:

I ben Cronfa Tal-y-Bont, 10 milltir neu 26 milltir.

Taith 4:

Sarn Elen a ffyrdd y Rhufeiniaid, 22 milltir.

Taith 5:

Priordy Llanddewi Nant Hodni a Bwlch yr Efengyl, 52 milltir.

Canolfannau Croeso Cymru

CANOLFANNAU CROESO CYMRU

Aberhonddu*

01874 622485

Canolfan Ymwelwyr Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog*

01874 623366

 

* ar agor trwy'r flwyddyn

 


 

Mwy o wybodaeth ar-lein am yr ardal hon:

 

http://www.tourism.powys.gov.uk/

 

http://www.cyclebreconbeacons.com/

 

 

Yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Canolfannau Gwyliau Beicio Cymru - Aberhonddu

 

 


Cynhelir y wefan hon gan Bartneriaeth Gwyliau Beicio Cymru