Beicio yng Ngheredigion: Hanes Llwybr Ystwyth
Mae rhannau helaeth o Lwybr Ystwyth - rhwng Aberystwyth â Thregaron - yn dilyn trywydd yr hen reilffordd arferai gysylltu Aberystwyth â Chaerfyrddin. Datbylgwyd y rheilffordd yn wreiddiol gan Gwmni Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau.
CWMNI MANCEINION AC ABERDAUGLEDDAUBreuddwyd y bobl tu ôl i Gwmni Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau oedd elwa o greu cysylltiad rhwng porthladd Aberdaugleddau â ffatrïoedd cotwm gogledd orllewin Lloegr, a thrwy hynny wneud elw sylweddol. Yr hyn nad oedden nhw wedi ei ragweld oedd y byddai cyfnod cynllunio'r holl fenter yn cydredeg â Rhyfel Cartref America (1860-65) a'i ganlyniadau.'Roedd y cynllun gwreiddiol yn anelu at greu rhwng Pencader, ger Caerfyrddin, ble'r oedd rheilffordd eisoes yn terfynu, â rheilffordd newydd fyddai'n cael ei hadeiladu o Langurig i Lanidloes ac oddi yno yn cysylltu â gogledd orllewin Lloegr drwy'r Drenewydd a'r Amwythig. 'Roedd nifer o gwmnïau eraill hefyd wedi bod yn prysur gynllunio ac adeiladu rheilffyrdd o'r newydd yng ngorllewin a chanolbarth Cymru rhwng 1845 a dyddiad gwireddu'r ddeddfwriaeth gogyfer â Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau yn 1860. Ni fentrodd y cwmni i gytundeb â pheirianyddion i adeiladu'r rheilffordd tan y flwyddyn 1864 pan gytunwyd i gyflogi'r arloeswr o Gymro, David Davies, Landinam (ganed yn Lledrod, Ceredigion) a'r peiriannydd Frederick Beeston i osod 27 milltir o reilffordd rhwng Pencader a Phontrhydfendigaid. Cyrhaeddodd y rheilffordd Dregaron ym 1866. Fodd bynnag, y cwestiwn mawr, o'r cychwyn cyntaf, oedd sut i gyrraedd Pontrhydfendigaid ac i fentro ymhellach i gyfeiriad Pontrhydygroes, Pontarfynach, Cwm Ystwyth a Llangurig. 'Roedd croesi Cors Caron - y gors fwyaf o'i bath ar dir mawr ynys Prydain - yn her anferthol wynebai'r peirianyddion ac unigeddau uchel y mynyddoedd tu hwnt i Bontrhydfendigaid yn ei disgwyl wedyn. Yn wir, 'roeddent eisoes wedi cyfarfod â thrafferthion wrth geisio gyrru twnnel rhwng Cwm Ystwyth â Llangurig. Rhywle ar hyd y ffordd gwnaed penderfyniad i beidio gyrru am Bontrhydfendigaid. Mae gwefan hanes Pontrhydfendigaid yn cynnig, ar y dudalen sy'n rhoi hanes Cors Caron fod ystâd yr Arglwydd Lisburne wedi dylanwadu ar y datblygwyr i fwrw i gyfeiriad treflan Ystrad Meurig yn hytrach na Phontrhydfendigaid gan y byddai hynny yn osgoi torri ar draws meysydd nifer o ffermydd yr ystâd. Wrth gwrs, 'roedd hynny yn golygu ei bod yn rhaid i'r peirianwyr ddarganfod ffordd o adeiladu ar fawndir Cors Caron. Felly y bu, fodd bynnag, a sefydlwyd gorsaf ger Ystrad Meurig a'i galw "Strata Florida" ar ôl abaty Ystrad Fflur i'r dwyrain o Bontrhydfendigaid. Erbyn hyn 'roedd y syniad o gysylltu â Llangurig wedi ei osod i'r neilltu. Diddorol yw nodi, fodd bynnag, i ddarn o reilffordd gael ei adeiladu i gysylltu Llangurig â Llanidloes er mai dim ond un trên nwyddau a'i defnyddiodd erioed. Mae adfeilion gwely'r rheilffordd i'w gweld hyd y dydd heddiw. Erbyn haf 1867 'roedd y rheilffordd wedi ei hymestyn i gyrraedd Aberystwyth. Daliai Strata Florida i fod yn un o'r mannau pwysig alluogai trenau i basio ei gilydd. Pasiai tri thrên bob ffordd bob dydd ac yma 'roedd y rheilffordd yn troi ei llwybr am i fyny a thua'r môr gan ddringo ar oledd 1:43 i gyfeiriad Tynygraig a gorsaf "Caradog Falls" cyn disgyn i gyfeiriad y Trawscoed ar oledd 1:41. Aeth cwmni'r M&M i drafferthion ariannol a daeth y rheilffordd yn eiddo i gwmni'r Great Western ym 1911. Gorffennodd rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin gludo nwyddau ym 1964 a gorffennwyd cludo teithwyr y flwyddyn ganlynol.
|
Darnau Ffilm:Mae hawlfraint y clipiau ffilm y'u dangosir isod yn eiddo i Michael Clemens Railways ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn ddiolchgar am yr hawl i'w dangos. Medrwch brynu DVD sydd yn dangos y ffilm gyflawn o wefan Michael Clemens Railways.Clip 1: Tregaron: |
|
Clip 2: Strata Florida*
|
|
|
Clip 3: Caradog Falls*
|
|
|
Clip 4: Trawscoed*
|
|
|
Clip 5: Llanilar
|
|
|
Clip 6: Aberystwyth
|