Beicio yng Ngheredigion...

Llwybr Ystwyth - Statws Cyfredol


Cliciwch ar un o sgwariau’r map isod am fap o well safon neu ewch i'r dudalen hon i lawrlwytho map PDF o Lwybr Ystwyth yn rhad ac am ddim.

Ail-agorwyd Pont yr Odyn, Trefechan, ym mhen Aberystwyth o Lwybr Ystwyth, at ddefnydd beicwyr a cherddwyr ar 19 Tachwedd 2008.

CYFRAN
STATWS
Sylwadau
1
2

Ar agor
Mae Llwybr Ystwyth yn cychwyn o faes parcio Rhodfa'r Parc, drws nesaf i faes Clwb Peldroed Aberystwyth. Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ni chaniateir marchogaeth ar y gyfran hon.
2
3

Ar agor
Mae'r gyfran hon ar agor i'w defnyddio. I'r de o Lanfarian mae'r trywydd yn dilyn lôn wledig i gychwyn. Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer beicwyr, cerddwyr a marchogaeth.
3
4

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac, erbyn hyn, mae hawl caniataol ar gyfer marchogaeth ar y gyfran hon.
4
5

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac, erbyn hyn, mae hawl caniataol ar gyfer marchogaeth ar y gyfran hon hefyd.. O'r Trawscoed mae'r trywydd yn dilyn heol y B4575. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cynnig maes parcio a llwybrau yn y Trawscoed.
5
6a

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ni chaniateir marchogaeth ar y gyfran hon ar hyn o bryd.
6a
6b

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ni chaniateir marchogaeth ar y gyfran hon ar hyn o bryd. Noder fod disgyniad go serth o Lwybr yr Ystwyth i'r gyffordd â'r B4340.
6b
7

Ar agor
Mae'r gyfran hon y dilyn heol y B4340.
7
8

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ni chaniateir marchogaeth ar y gyfran hon ar hyn o bryd.
8
9

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn croesi Cors Caron. Darperir maes parcio ynghyd â chyfleusterau cyhoeddus (gan gynnwys cyfleusterau i'r anabl) gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ym mhwynt 9 ar y map. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynnig hawl caniataol ar gyfer marchogaeth, cerdded a beicio ar y gyfran hon.
9
10

Ar agor
Mae'r gyfran hon yn dilyn heol y B4343 i Dregaron.