LLANDYSUL...

Mae tref Llandysul yn boblogaidd gyda physgotwyr a'r afon yn enwog am ei eog yn ogystal â denu nifer o garedigion canwio i'r ardal.

Melinau'n dal i droi...

Ar hyd a lled dyffryn Teifi mae melinau gwlân a blawd yn dal wrth eu gwaith ac yn Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru yn Drefach Felindre cewch gyfle i wylio arbenigwyr wrthi ynghyd â mwynhau olrhain hanes diwydiant fu mor bwysig - nid yn unig i bobl dyffryn Teifi ond hefyd i'r holl sector amaethyddyol lleol dros y canrifoedd.

Croeso i Gerddwyr...

Mae ardal Llandysul a Phont-Tyweli yn cynnig croeso i gerddwyr. Ewch yma i lawrlwytho llyfryn sy'n cynnig manylion am lwybrau cerdded yn y fro ac i ddarganfod llu o adnoddau arall am gerdded.

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy eto o fanylion ar bysgota, beicio a cherdded.

Gwyl y Calan Hen...

Mae trigolion lleol yn parhau i arfer amryw o'r hen draddodiadau lleol: dethlir Gwyl y Calan Hen o hyd ar 12 Ionawr bob blwyddyn.

Gweithgareddau...

Mae Clwb Padlo Llandysul yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn gweithgareddau hamdden gan gynnwys canwio.

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio.

Llety...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety neu cliciwch yma am fanylion mewn ffeil PDF.