Croeso i Wefan Twristiaeth Ceredigion...

Cyniga'r wefan hon ystod o fanylion am wyliau yng Ngheredigion - un o'r ardaloedd gwyliau gyda'r mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Ymysg y Cymreiciaf o holl ardaloedd gwyliau Cymru, mae Ceredigion yn cynnig traethau gwobrwyedig a rhwydwaith eang o lwybrau cerdded, llwybrau beicio - a beicio mynydd - trwy gefn gwlad odidog. Yn ogystal, mae Bae Ceredigion ac afonydd enwog megis y Teifi, Rheidol, Aeron a'r Ystwyth, yn ogystal â llynnoedd mynydd a llynnoedd masnachol, yn cynnig croeso heriol i bysgotwyr.

LLETY...

Mae Ceredigion yn cynnig ystod eang o lety o safon; gwestai, gwely a brecwast, meysydd gwyliau a bythynnod hunan arlwy. Mae'r llety a ddisgrifir ar y wefan hon i gyd naill ai wedi derbyn archwiliad llwyddiannus gan swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r AA, neu maent ar hyn o bryd yn disgwyl archwiliad.

Am fwy o fanylion ewch i'r dudalen llety.

GWEITHGAREDDAU....

Ymwelwch â'r tudalennau canlynol am fanylion ar y cyfleon bendigedig sydd ar gynnig yng Ngheredigion ar gyfer cerdded, beicio a physgota.

Cewch hefyd adnoddau bendigedig ar gyfer chwarae golff. Mwy o fanylion.....

DIGWYDDIADAU....

Gyda Chanolfannau Celfyddydau godidog a llu o ddigwyddiadau diddorol gydol y flwyddyn, mae digon i'ch diddori yng Ngheredigion. Cewch mwy o fanylion ar ein calendar digwyddiadau

LLYFR CANLLAW - LLWYBR ARFORDIR CEREDIGION

Mae Gwasanaeth Twristiaeth Ceredigion yn cynnig gwerthi'r llyfr canllaw dwyieithog, 240 tudalen llawn lliw, drwy'r post.

Cewch fanylion llawn am y gwasanaeth archebu llyfrau drwy'r post - ynghyd â ffeiliau PDF yn disgrifio'r llyfrau ac yn cynnig ffurflen archeb - ar y dudalen hon.

NEWYDD: LLAWLYFR GERDDI A THYFWYR CEREDIGION

Mae Ceredigion yn adnabyddus am ei harfordir naturiol hardd, ei baeau bach hudolus a’i thraethau cudd. Ond mae ganddi sawl cyfrinach arall hefyd. O fentro i gefn gwlad, fe gewch gyfoeth o wyrddni ar bob bryn ac ymhob dôl, ym mhob twll a chornel. Bydd y rheini sy’n hoff o blanhigion o bob lliw a llun wrth eu bodd yn crwydro’r rhannau hyn o Geredigion.

NEWYDD: LLWYBRAU FFYDD YNG NGHEREDIGION

Mae Taith y Cilgwyn a Thaith y Smotyn Du yn ddwy daith mewn cyfres o lwybrau ffydd yng Ngheredigion. Maent yn eich gwahodd i fwynhau harddwch ein cefn gwlad gan neilltuo amser ar hyd y ffordd i oedi a myfyrio ynghylch datblygiad ysbrydol y sir ar hyd y canrifoedd, a fynegir yn ein capeli, ein heglwysi, ein llenyddiaeth a'n traddodiadau.

TAITH Y CILGWYN
TAITH Y SMOTYN DU