Traethau Enwog Ceredigion...
Am ystadegau Llanw a Thrai ewch yma.
Mae gan Geredigion rhai o'r traethau gorau ym Mhrydain, i gyd ar lannau Arfordir Treftadaeth yn edrych allan at Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ble mae dolffiniaid gwyllt i'w gweld yn feunyddiol o'r bron.
| Gwobr Glan Môr 2008 | Gwobr Afordir Gwyrdd 2008 | Baner Las 2008 | Swyddogion Traeth | | | |
| | |
| | |
| | |
| | | |
| | | | | | |
| | |
| | | |
GWOBRAU GLAN MÔR...
Derbyniodd PEDWAR AR DDEG traeth yng Ngheredigion Wobrau Traethau Glan Môr y Deyrnas Unedig ar gyfer 2008. Cewch mwy o fanylion am y cynllun hwn ar wefan Cadw Cymru'n Daclus
GWOBRAU YR ARFORDIR GLAS...
Datblygwyd Gwobr Yr Arfordir Glas - ar gyfer traethau gwledig - gan Bartneriaeth y Môr Glas mewn cydweithrediad ag ENCAMS yma yng Nghymru. Dyfarnwyd PEDWAR traeth o Geredigion yn deilwng o'r wobr ar gyfer 2008. Cewch mwy o fanylion am y cynllun hwn ar wefan Cadw Cymru'n Daclus
GWOBRAU'R FANER LAS...
Dyfarnwyd PEDWAR o draethau Ceredigion yn deilwng i chwifio Baner Las ar gyfer 2008. Cewch mwy o fanylion am y cynllun hwn ar wefan Cadw Cymru'n Daclus
RHIENI PLANT O OED YSGOL:
Bydd Cyngor Sir Ceredigion gan arfer yn darparu gwasanaeth dyddiol Swyddogion Traeth ac Achub Bywyd ar y traethau mwyaf prysur dros gyfnod defnydd brig gwyliau haf ysgolion. Mae'r Swyddogion Traeth yn gosod baneri i ddynodi Ardal Nofio o dan Oruchwyliaeth. Nodir y traethau ble mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y symbol:
Noder y darperir gwasanaeth tebyg gan Sir Benfro ar draeth Poppit, ger Aberteifi.
PERCHNOGION CŴN:
Mae Ceredigion yn croesawu perchnogion cŵn cyfrifol. Mae'n bosibl i berchenog ci anwes fwynhau cwmni'r ci ar y rhan fwyaf o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion gydol y flwyddyn.Dylid nodi fod isddeddfau'n mynnu fod cŵn anwes yn cael eu cadw ar dennyn ar y rhan fwyaf o ardaloedd promenâd ac ar strydoedd glan mô werth ymylon traethau Ceredigion trwy gydol y tymor ymdrochi.
Cewch fanylion llawn ar ardaloedd ble ganiateir a gwaharddir cŵn ar draethau yng Ngheredigion ar y dudalen hon.