| Aberaeron | Aberporth | Aberteifi | Aberystwyth | Llanbedr Pont Steffan | Llandysul |
| Llangrannog | Pontarfynach | Tregaron | Tresaith | Y Borth | Y Cei Newydd |
Y BORTH, CLARACH a'r YNYSLAS...
Un o draethau gorau Cymru...
Mae traeth y Borth yn un llyfn tu hwnt ac mae llawer un yn cael ei dwyllo gan olygfa'r cerrig mân welir yn disgyn yn serth i'r môr ar lanw uchel. Pan â'r llanw allan gwelir milltir ar ôl milltir o dywod melyn braf.Oherwydd ei draeth llyfn mae Borth yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd sydd ganddynt blant bach. Mae hefyd yn fan poblogaidd gan garedigion yr hwylfwrdd
Dywed hen chwedl am yr adeg pan oedd erwau meithion o dir, sydd bellach o dan ddyfroedd Bae Ceredigion, yn dal yn dir sych. Yn debyg i diroedd yn yr Iseldiroedd, 'roedd cyfres o furiau yn amddiffyn Cantre'r Gwaelod rhag y dyfroedd. Un noson cynhaliwyd gwledd fawr ac, yn groes i'r gorchymyn, bu Seithennyn - y gwyliwr ar y mur - yn esgeulus nes gadael y môr i mewn. Boddwyd Cantre'r Gwaelod o ganlyniad i'w esgeulustod.
Oes unrhyw wirionedd yn yr hen chwedl? Wel, ar draeth y Borth ar adegau arbennig o'r flwyddyn bydd y llanw yn datgelu olion hen, hen goedwigoedd gydag ysgerbydau boncyffion y coed yn dangos eto drwy'r tywod....
Gwaharddiadau cŵn ar draeth y Borth
O'r 1af o fis Mai 2008, bu newidiadau yn yr is-ddeddfau gwaharddiadau cŵn sy'n effeithio ar draeth y Borth. Cliciwch yma am daflen esboniadol ar ffurf ffeil PDF.Amgylchedd arbennig...
Ar wahân i wrando ar lu o chwedlau lleol, mae digon i'w weld ac i'w wneud yn ardal y Borth.Amgylchynir y Borth i'r gogledd a'r dwyrain gan safleoedd o bwysigrwydd naturiaethol arbennig. I'r gogledd mae Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Glannau Dyfi a thwyni tywod ysblennydd Ynyslas. Tua'r dwyrain mae gwarchodfa arall ar Gors Goch Fochno.
Mae ardaloedd y Borth, Clarach a'r Ynyslas yn boblogaidd tu hwnt gyda gwersyllwyr ac mae rhai o'r meysydd carafan a gwersylla gyda'r gorau yng Nghymru yn y fro.
Cerdded...
Medrwch gerdded Llwybr Arfordir Ceredigion o'r Ynyslas a'r Borth i gyfeiriad Aberystwyth, gan basio Sarn Cynfelin - un o furiau dymchweledig Cantre'r Gwaelod yn ôl y chwedl. Heibio i Sarn Cynfelin oedwch am 'baned neu hufen ia ym mhentref Clarach.Dringa'r llwybr yn ei flaen fel eich bod yn cyrraedd copa Craig Glais i'r gogledd o Aberystwyth. Oddi yno medrwch ddisgyn i Aberystwyth ar y trên bach.
Nid yn unig yw ardal y Borth yn gyrchfan gogyfer â cherdded Llwybr Arfordir Ceredigion ond mae yna hefyd lwybr hir sydd yn dringo o'r Borth i gyfeiriad Pontarfynach a thu hwnt am Bontrhydfendigaid ac Ystrad Fflur. Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio yn yr ardal.