![]() |
Dewis Ardal Gwyliau yng Ngheredigion......
Mae tirwedd Ceredigion yn dringo hyd at 700 metr o'r arfordir i fynyddoedd y Cambria o gwmpas Pontarfynach, a thu ôl i Dregaron, yn ardaloedd gogleddol y sirI'r de o Lanbedr Pont Steffan yr afon Teifi sydd yn ffurfio'r ffin rhwng Ceredigion â Sir Gaerfyrddin, yn gyntaf, ac yna â Sir Benfro, wrth iddi lifo drwy Landysul gan anelu am Aberteifi a Bae Ceredigion.
Ni chymer ond rhyw awr a hanner, gan amlaf, i deithio mewn car modur o'r Borth i Aberteifi. 'Does yr un o bentrefi neu drefi gwledig Ceredigion fawr pellach na hanner awr mewn car modur o draeth euraidd bendigedig neu lwybr yr arfordir. Yn yr un modd, 'does yr un o ardaloedd gwyliau arfordirol Ceredigion sydd fwy na rhyw hanner awr o siwrnai mewn car modur o olygfeydd mynyddig godidog, llwybrau beicio mynydd neu lwybrau cerdded yn yr ucheldir.
Er hwylustod, disgrifir prif ardaloedd gwyliau Ceredigion ar y tudalennau hyn o dan enw'r dref neu bentref agosaf sydd â'r ystod fwyaf o gyfleusterau i'w cynnig. Cadwch mewn golwg, fodd bynnag, bod Ceredigion yn dra gwahanol i fwyafrif ardaloedd y Deyrnas Unedig gyfoes gan fod mwyafrif trigolion Ceredigion yn dal i fyw yng nghefn gwlad yn hytrach na threfi mawrion. Mae dros 150 o bentrefi a threfi bychain yng Ngheredigion ac nid yw poblogaeth y dref fwyaf, sef Aberystwyth, fwy na 20,000.
ARDALOEDD ARFORDIROL:
Aberaeron
Yr ieuengaf o drefi Ceredigion, dathlodd Aberaeron ei ddeucanmlwyddiant yn 2007. Mae llwybr beicio - ar y gwastad - yn cysylltu Aberaeron ag eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron. Darllenwch mwy...
Aberporth
Gyda'i draeth euraidd a chysgodol, mae Aberporth yn cynnig ystod dda o lety o safon. Cysylltir Aberporth â Thresaith gan lwybr yr arfordir. Darllenwch mwy...
Aberystwyth
Tref fwyaf arfordir gorllewinol Cymru a chartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru - trysorfa'r genedl. Mae Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyfleusterau gyda'r mwyaf cystadleuol yng Nghymru. Darllenwch mwy...
Llangrannog
Prin y medrech agor unrhyw lyfr taith ac ynddo gyfeiriadau at Gymru heb ganfod llun o Langrannog. Darllenwch mwy...
Tresaith
Treflan fechan yn dringo allan o'r môr tu hwnt i ruban aur o dywod. Darllenwch mwy...
Y Borth
Milltiroedd o dywod ble unwaith y bu ffiniau dwyreiniol tiroedd Cantre'r Gwaelod. Cewch yn yr ardal ddwy Warchodfa Natur Genedlaethol; Cors Goch Fochno tu cefn i'r Borth a Gwarchodfa Aber y Dyfi gyda'r twyni tywod enfawr tua'r Ynyslas. Darllenwch mwy...
Y Cei Newydd
Yma yr ysgrifenodd Dylan Thomas "Quite Early One Morning", rhagflaenydd "O Dan y Wenallt". Dyma'r man i weld dolffiniaid, i ddal cychod am dripiau allan i'r Bae i fwynhau'r bywyd gwyllt neu i ddysgu sgiliau hamdden morol. Darllenwch mwy...
ARDALOEDD CEFN GWLAD:
Aberteifi
Aberteifi yw'r brif dref ar gyfer de Ceredigion a gogledd Sir Benfro. Er nad yw ond tafliad carreg o'r mocirc;r mawr, mae naws go ddinesig i dref Aberteifi ac mae canolfan celfyddydau Theatr Mwldan yn cynnig adnoddau o safon aruchel a rhaglen gynhwysfawr gydol y flwyddyn. Darllenwch mwy...
Pontarfynach
I fyny yng nghysgodion mynyddoedd Pumlumon, cysylltir Pontarfynach ag Aberystwyth gan drên bach stêm sydd yn dringo drwy Gwm Rheidol. Mae llwybr cerdded yn arwain at Bontarfynach o'r Borth ac yn arwain ymlaen i gyfeiriad Pontrhydfendigaid ac Ystrad Fflur. Darllenwch mwy...
Llanbedr Pont Steffan
Yma yn "Llanbed" mae Coleg Prifysgol Dewi Sant, y coleg prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr ar wahân i Rydychen a Chaergrawnt. Darllenwch mwy...
Llandysul
Paradwys i bysgotwyr - a rheini sy'n mwynhau canwio. Darllenwch mwy...
Tregaron
Hen ganolfan porthmyn sy'n dal i orwedd yng nghysgod mynyddoedd uchel y Cambria heb fawr ddim ond golygfeydd ysblennydd y moelydd meithion tua'r dwyrain rhwng Ceredigion draw i Bowys a thu hwnt i'r ffin â Lloegr. Darllenwch mwy...
