Pysgota yng Ngheredigion...
Mae Ceredigion, ar lannau Bae Ceredigion, yn hen ffefryn o ardal gan i bysgotwyr ymweld â hi. Mae'r ardal yn arbennig o enwog am frithyll môr - sewin - ar lannau ceg yr afon Teifi yn arbennig, ond hefyd ar yr Aeron, Rheidol ac Ystwyth.
Mae'r ardal hefyd yn boblogaidd iawn oherwydd y pysgota heriol am eog a brithyll gwyllt geir yma.
Ar gyfer pysgotwyr môr, mae cyfle i hwylio mewn cychod o borthladd Aberystwyth, tra bod cyfleusterau bendigedig ar gyfer pysgotwyr garw ar aml i bwll a physgodfa. Mae llawer o bysgodfeydd yn cynnig adnoddau penigamp ar gyfer pysgotwyr a chanddynt anabledd.
Bron nad oes gormod o ddewis cyfleon i bysgotwyr yng Ngheredigion ac mae digon o fannau cyfleus i aros ynddynt sydd yn arbenigo mewn cynnig "Croeso i Bysgotwyr". Ymwelwch â gwefan "www.CroesoiBysgotwyr.com" i gael mwy o fanylion.