CERDDED ARFORDIR CEREDIGION...
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cwblhau cynllun i sefydlu llwybr cerdded sy'n ymestyn bob cam o Aberteifi, ym mhegwn deheuol Ceredigion, bob cam i'r Ynsylas yng ngogledd y sir. Derbyniodd gynllun Llwybr Arfordir Ceredigion nawdd o'r Undeb Ewropeaidd o dan raglen Amcan 1 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r llyfr canllaw newydd, dwyieithog, 240 tudalen llawn lliw newydd ei gyhoeddi ac mae ar gael drwy'r post oddi wrth Wasanaeth Twristiaeth Ceredigion.
CYSYLLTU'R TLYSAU...
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn creu cyswllt rhwng llu o adnoddau amgylcheddol, naturiol a hanesyddol un o'r rhannau prydferthaf o arfordir Cymru:- Ardal Cadwraeth Arbennig yr Afon Teifi gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glannau'r Teifi a Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru yng Nghilgerran;
- Y traeth a'r arfordir o gwmpas y Mwnt sydd o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gydag eglwys hanesyddol y Drindod gerllaw;
- Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ac Arfordir Treftadaeth Morol Ceredigion sy'n fyd enwog am eu dolffiniaid, llamidyddion a morfilod;
- Traethau gwobrwyedig pentrefi glanmôr prydferth Aberporth; Tresaith a Llangrannog;
- Tiroedd ysblennydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn nhraeth Penbryn, yng Nghwmtydu ac ar Ynys Lochtyn;
- Y Cei Newydd a'r Cei Bach gerllaw - sy'n enwog am eu cysylltiadau â Dylan Thomas arferai fyw ac ysgrifennu yn y fro;
- Aberaeron - ble mae un adeilad ymhob pedwar wedi ei restru fel un sydd o arwyddocâd pensaerniol neu hanesyddol arbennig. Mae llwybr troed a beicio yn arwain o Aberaeron i gyfeiriad eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron;
- Pentrefi arfordirol croesawgar tebyg i Aberarth, Llanon, Llansantffraid a Llanrhystud;
- Aberystwyth - cartref coleg cyntaf Prifysgol Cymru ac, wrth gwrs, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Aberystwyth yw'r dref fwyaf ar arfordir gorllewinol Cymru;
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol Aber yr afon Dyfi yn yr Ynyslas, ger y Borth.
CYHOEDDI LLYFR CANLLAW - LLWYBR ARFORDIR CEREDIGION
Mae'r llyfr canllaw newydd, dwyieithog, 240 tudalen llawn lliw newydd ei gyhoeddi ac mae ar gael drwy'r post oddi wrth Wasanaeth Twristiaeth Ceredigion.
Cewch fanylion llawn am y gwasanaeth archebu llyfrau drwy'r post - ynghyd â ffeiliau PDF yn disgrifio'r llyfrau ac yn cynnig ffurflen archeb - ar dudalen cerdded prif wefan twristiaeth Ceredigion.
Nodwch fod y broses o godi arwyddbyst o'r newydd mewn nifer o fannau ar Lwybr yr Arfordir yn digwydd ar hyn o bryd. Gall fod anmbell i ddarn ble nad yw'r gwaith wedi ei gwblhau eto.