CERDDED ARFORDIR CEREDIGION - GWASANAETH BWS TYMHOROL Y CARDI BACH...
Yn 2008, mae'r gwasanaeth bws tymhorol ar gyfer arforidr de Ceredigion - y Cardi Bach - yn rhedeg o'r 28 Mehefin hyd y 28 Medi, gan gysylltu'r Cei Newydd ag Aberteifi.
Mae'r gwasanaeth yn rhedeg yn ddyddiol heblaw am ddydd Mercher.
Maer' bws yn cynnig modd hamddenol o fwynhau holl olygfeydd arfordir Bae Ceredigion a modd hawdd i unigolion gyrraedd darnau o Lwybr Arfordir newydd Ceredigion heb orfod cerdded mewn cylch i fan cychwyn.
Gall y Cardi Bach hefyd fod o gymorth i feicwyr gan fod modd i'r bws gludo dau feic ar bob taith. Mae'r gwasanaeth yn gweithio ar sail "galw a theithio" - gall deithwyr gael eu codi a'u gollwng ar unrhyw bwynt ar hyd y daith cyn belled รข'i bod hi'n ddiogel i wneud hynny.
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||